G0T 1 Herio athroniaethau radicalaidd
Rhaglen addysgol gydag adnoddau helaeth, wedi ei rhannu'n 4 modiwl, yn canolbwyntio ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn rhwystro ystumio neges wrth-dreisgar y ffydd Islamaidd; mae'n meithrin parch a goddefgarwch tuag at bawb.
G0T 1 RHAGLEN 11-19 AR GYFER YSGOLION A CHOLEGAU:
NODIADAU:
(A)MAE’R PECYN ADNODDAU AR GYFER Y RHAGLEN ADDYSGU YN CYNNWYS:
- BRASLUN/TROSOLWG O’R GWERSI
- CANLLAWIAU CYFLWYNO MANWL LLINELL AR Y TRO GYDA CHYNGOR ARFER DDA
- ADNODDAU ATODOL
- DVD PUM RHAGLEN
- AR GAEL FEL PECYN ADNODDAU
(B) AR Y GWEILL: CYSYLLTU’R ADNODDAU A CHWRICWLWM Y DEYRNAS UNEDIG
(C) CYNIGIR RHANNAU 1 + 2 UCHOD YN DDWY IEITHOG (SAESNEG A CHYMRAEG)
AMCANION DYSGU AR GYFER Y PUM MODIWL
Cynllun gwers 1 (Grŵp dysgu Mwslimaidd yn bennaf)
Amcanion/Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Adnabod pwy sy’n gymwys i roi cyngor ar y ffydd Islamaidd.
Dangos dealltwriaeth well o Islaam, Eeman ac Ihsaan.
Gwerthfawrogi sut y gall grwpiau eithafol treisgar fel Khawarij wyrdroi dysgeidiaethau di-drais Islaam.
Gwerthuso sut mai parhau i wyrdroi negeseuon di-drais Islaam yn unig y mae grwpiau eithafol treisgar fel al-Qa’eda.
Cynllun gwers 2 (Dewis arall: Grŵp dysgu nad yw’n Fwslimaidd yn bennaf)
Amcanion/Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Adnabod pwy sy’n gymwys i roi cyngor ar y ffydd Islamaidd.
Dangos dealltwriaeth well o Islaam, Eeman ac Ihsaan.
Gwerthuso sut mae grwpiau eithafol treisgar fel al-Qa’eda yn gwyrdroi dysgeidiaethau di-drais Islaam.
Cynllun gwers 3
Amcanion/Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Dangos gwell ddealltwriaeth o jihad mewn Islaam, yn benodol y gwahaniaethau rhwng (i)ystyr jihad fel yr ymdrech yn erbyn temtasiwn; (ii)jihad ymosodol; (iii)jihad amddiffynnol.
Gwerthuso sut mae grwpiau eithafol treisgar fel al-Qa’eda ac eraill yn gwyrdroi dysgeidiaethau di-drais Islaam o ran jihad.
Deall fod grwpiau eithafol presennol fel al-Qa’eda yn defnyddio’r ddealltwriaeth wyrdroëdig hon (i) at eu dibenion eu hunain neu (ii)trwy anwybodaeth neu (iii) y ddau.
Cynllun gwers 4
Amcanion/Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Dod i ddeall yr hyn sy’n dylanwadu ar, ac yn nodweddi ein hunaniaeth mewn cymdeithas.
Archwilio, a deall rhagfarn a gwahaniaethu fel y mae mewn cymdeithas, ac yn arbennig yn ein cymuned leol, yn well.
Datblygu diffiniad gweithredol o’r term Islamoffobia a deall ei effeithiau negyddol ar Fwslimiaid mewn cymdeithas heddiw.
Cynllun Gwers 5
Amcanion/Deilliannau Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Dod i ddeall enghreifftiau o Islamoffobia yng nghymdeithas Prydain heddiw yn well.
Gwerthfawrogi pam fod goddefgarwch a pharch mor bwysig yn ein cymdeithas.
Adlewyrchu ar y ffyrdd y gallwn ni wneud ein cymdeithas yn fwy goddefgar a llawn parch.
- Fideos Rhaglen Cyd-dynnu Caerdydd
- Understanding Islam
- Understanding Islam
- Old WBQ Materials
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16 2023
- CHALLENGING EXTREMISM
- Fideo Herio Eithafiaeth