CD (Cyd-dynnu) 2 Ysgolion Uwchradd a Cholegau AB
Rhaglen addysgu ryngweithiol gydag adnoddau o 3 modiwl sy'n hwyluso trafodaeth agored a meddwl yn feirniadol ynghylch materion sy'n ganolog i gymdeithas iach, ddemocrataidd ac integredig – un sy'n gwrthod ideolegau annymunol pob eithafwr.
RHAGLEN CYD-DYNNU 2 11-19 OED AR GYFER YSGOLION A CHOLEGAU
NODIADAU:
RHAGLEN ADDYSGU GYDAG ADNODDAU SY'N CYNNWYS:
- AMLINELLIAD/TROSOLWG O'R WERS
- NODIADAU CYFLAWNI MANWL FESUL LLINELL GYDA CHYNGOR ARFER GORAU
- ADNODDAU CYSYLLTIEDIG
- DVD GYDA THAIR PENNOD
- AR GAEL FEL PECYN ADDYSGU
AMCANION DYSGU AR GYFER POB UN O'R TRI MODIWL
Cynllun gwers 1:
Deilliannau/Amcanion Dysgu: Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion allu:
Gwybod beth yw eithafiaeth. Deall bod gwahanol fathau o eithafiaeth – treisgar a di-drais.
Archwilio'r dulliau y mae eithafwyr yn eu defnyddio i berswadio pobl i ymuno â'u hachosion – yn benodol, propaganda.
Cynllun gwers 2:
Deilliannau/Amcanion Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion:
Wybod sut i adnabod pobl sydd â safbwyntiau eithafol.
Deall sut y gall pobl gael eu dylanwadu i ddatblygu safbwyntiau eithafol, gan gyfeirio'n benodol at feithrin pobl i ddod yn eithafwyr.
Gwerthuso beth fyddai'r camau priodol i'w cymryd wrth ddelio â phobl yr oeddent yn amau eu bod yn datblygu safbwyntiau eithafol.
Cynllun gwers 3:
Deilliannau/Amcanion Dysgu:
Erbyn diwedd y wers hon, dylai disgyblion:
Fod yn fwy ymwybodol o sut i fynegi eu barn o fewn y gyfraith
Deall eu hawliau, eu cyfrifoldebau a chanlyniadau eu gweithredoedd
Myfyrio ar sut i arfer eu rhyddid i lefaru a gweithredoedd o fewn cymdeithas ddemocrataidd
- Fideos Rhaglen Cyd-dynnu Caerdydd
- Understanding Islam
- Understanding Islam
- Old WBQ Materials
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16
- Bagloriaeth Cymru CBAC Cam Cynnydd 5 / Rhaglen 14 - 16 2023
- CHALLENGING EXTREMISM
- Fideo Herio Eithafiaeth